Cyflog Uwch Reolwyr
Argymhellion y Pwyllgor
Mae argymhellion y Pwyllgor i Lywodraeth Cymru i’w gweld isod, yn y
drefn y maent yn ymddangos yn yr adroddiad hwn. Ewch i’r
tudalennau perthnasol yn yr adroddiad i weld y dystiolaeth a’r
casgliadau ategol:
Argymhelliad 1. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod diffiniad clir o’r hyn
a olygir gan swydd uwch yn y sector cyhoeddus yn cael ei lunio a’i
ddosbarthu gan Lywodraeth Cymru. Dylai hyn ystyried lefel y taliadau
cydnabyddiaeth, graddfa’r sefydliad dan sylw a lefel cyfrifoldeb y
deiliad swydd.
Argymhelliad 2. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru
yn defnyddio ei gwaith yn ad-drefnu llywodraeth leol i ystyried yr
opsiynau ar gyfer cyflwyno mwy o gysondeb o ran cyflogau uwch
reolwyr mewn Llywodraeth Leol. Dylid cyhoeddi sail resymegol glir i
sicrhau bod eglurder o ran sut y dylid pennu cyflogau mewn unrhyw
strwythur newydd a gyflwynir. O ystyried y penderfyniadau diweddar
gan rai cynghorau i ystyried uno gwirfoddol, dylid rhoi hyn ar waith ar
unwaith. Hefyd, dylid cynnwys y broses o uno gwirfoddol wrth ystyried
unrhyw strwythurau cyflog.
Argymhelliad 3. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru
yn llunio a chyhoeddi geirfa mewn perthynas â chyflogau uwch
reolwyr, sy’n nodi’r termau mwyaf priodol i’w defnyddio mewn
datgeliadau cyflog, ynghyd ag esboniadau ar gyfer termau a
ddefnyddir yn llai aml. Mae’r Pwyllgor yn argymell hefyd fod naratif i
gyfrifon yn cynnwys nodiadau digonol sy’n hawdd eu dehongli ac sy’n
darparu esboniad clir o unrhyw sefyllfaoedd anarferol.
Argymhelliad 4. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru
yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod eitemau sy’n
ymwneud â materion cyflog yn cael eu rhestru’n glir ac ar wahân ar
bob agenda. Gallai hyn olygu bod angen diwygio’r Rheoliadau
Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau,
Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) (Diwygio).
Argymhelliad 5. Mae’r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth
Cymru gyhoeddi canllawiau clir i awdurdodau lleol yn ei gwneud yn
ofynnol i unrhyw ffioedd Swyddogion Canlyniadau gael eu cyhoeddi
mewn lle hawdd cael gafael arnynt ochr yn ochr â gwybodaeth am
daliadau cydnabyddiaeth. Dylai hyn gynnwys esboniadau clir am yr
hawl hwn.
Argymhelliad 6. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru,
a chyrff eraill sy’n cyhoeddi cyfarwyddiadau cyfrifon, yn adolygu
mecanweithiau, gan gynnwys amodau grant, ar gyfer monitro
cydymffurfiaeth â’r datgeliadau cydnabyddiaeth, ac yn adrodd yn ôl i’r
Pwyllgor ar sut mae’n bwriadu sicrhau cydymffurfiaeth lawn.
Argymhelliad 7. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru
yn llunio a dosbarthu canllawiau ar sut i reoli trefniadau cyflog ar gyfer
cyd-benodiadau rhwng awdurdodau lleol, am fod cynnydd yn y mathau
hyn o benodiadau. Dylai hyn gynnwys yr angen i ddatgelu’r cyflogau
hyn yng nghyfrifon pob awdurdod lleol sy’n cyfrannu, ynghyd ag
esboniad clir o lefel y cyfraniad yn y nodiadau i’r cyfrifon.
Argymhelliad 8. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru
yn ystyried cyfansoddiad a threfn recriwtio Panel Annibynnol Cymru ar
Gydnabyddiaeth Ariannol, wrth i swyddi ddod ar gael, i sicrhau ei fod
yn cynrychioli cymdeithas sifil ehangach.
Argymhelliad 9. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod gwybodaeth am
bwyllgorau taliadau ledled y sector cyhoeddus a’u penderfyniadau’n
cael eu cyhoeddi mewn lleoliad hygyrch ac amlwg ar wefan y
sefydliadau.
Argymhelliad 10. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru
yn llunio canllawiau arfer da ar gyfer pwyllgorau taliadau yn nodi
egwyddorion allweddol bod yn agored a thryloyw. Ochr yn ochr â’r
canllawiau hyn, argymhellwn y dylid cynnal nifer o seminarau/sesiynau
hyfforddi sy’n nodi’r egwyddorion hyn ac yn datblygu’r sgiliau pwysig
sydd eu hangen i fod yn aelod effeithiol o banel taliada.
Argymhelliad 11. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru
yn llunio canllawiau arferion gorau sy’n nodi’r ffyrdd gorau o
ymgysylltu ag ymgynghorwyr allanol ynglŷn â chyflogau uwch reolwyr.
Dylai hyn gynnwys yr angen i ryngweithio â’r grŵp perthnasol sy’n
gwneud y penderfyniadau (er enghraifft, pwyllgor taliadau’r sefydliad)
gydol y broses.
Argymhelliad 12. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru
yn gweithio gyda CLlLC a Swyddfa Archwilio Cymru i lunio canllawiau
ar rôl uwch swyddogion mewn awdurdodau lleol wrth ddarparu cyngor
mewn perthynas â materion cyflog.
Argymhelliad 13. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru
yn gweithio gyda sectorau llywodraeth leol, addysg uwch, addysg
bellach, iechyd a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i sicrhau bod
hyfforddiant a chanllawiau ar gyflogau uwch reolwyr yn cael eu
darparu’n gyson i bob sector.
Argymhelliad 14. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru
yn atgoffa awdurdodau lleol o bwysigrwydd ac annibyniaeth rôl
swyddogion monitro, a’r angen i sicrhau bod y rôl hon yn
gweithredu’n effeithiol ledled y sefydliad ar lefel uwch. Dylai hyn
atgoffa’r swyddogion monitro hefyd sut i roi gwybod am unrhyw
bryderon yn fewnol neu’n allanol os oes angen.
Argymhelliad 15. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru
yn cynnal astudiaeth i wahanol fecanweithiau cyflog, ac yn llunio
adroddiad sy’n pennu’r hyn a ystyrir yn arfer da. Dylai hyn ystyried y
ffordd orau o ymdrin ag uwch reolwyr mewn sefydliadau sy’n methu.
Argymhelliad 16. Mae’r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth
Cymru ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau’r sector cyhoeddus nodi eu
dull o ymdrin â chyflog ar sail perfformiad a rheoli doniau mewnol yn
eu polisïau cyflog.
Argymhelliad 17. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru
yn cyhoeddi cyngor a chanllawiau i Sector Cyhoeddus Cymru, gan
gynnwys y sectorau hynny sy’n derbyn arian sylweddol gan Lywodraeth
Cymru (e.e. landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, addysg bellach ac
addysg uwch) ar y gofynion ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth am daliadau
a pholisïau cyflog, gan ystyried argymhellion yr adroddiad hwn.
Argymhelliad 18. Mae’r Pwyllgor yn argymell ei gwneud yn ofynnol i
sefydliadau’r sector cyhoeddus gyhoeddi gwybodaeth am nifer y
gweithwyr sydd â phecyn taliadau o fwy na £100,000 mewn bandiau o
£5,000.
Argymhelliad 19. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod pob sefydliad yn
sector cyhoeddus Cymru yn llunio adroddiad taliadau llawn bob
blwyddyn, a’i fod yn cael ei gyhoeddi mewn lle amlwg ar wefan y
sefydliad. Dylai hyn nodi’n llawn y wybodaeth ganlynol am yr holl uwch
staff, gan roi ystyriaeth ddilys i argymhelliad blaenorol y Pwyllgor am
sicrhau y gellir dehongli’r wybodaeth a gyhoeddir yn hawdd:
– cyflog;
– -pensiwn;
– -buddion mewn nwyddau;
– -buddion di-dreth;
– -pecynnau diswyddo;
– -ffioedd Swyddogion Canlyniadau/ffioedd ychwanegol;
– -y gymhareb gyflog rhwng cyflogau uchaf ac isaf swyddogion;
– -cyfansoddiad rhyw yr uwch dîm.
Argymhelliad 20. Mae’r Pwyllgor yn argymell ei gwneud yn ofynnol i
bob sefydliad yn sector cyhoeddus Cymru gyhoeddi datganiad polisi
cyflog, yn unol â’r gofynion ar Awdurdodau Lleol ac awdurdodau Tân
ac Achub yn Neddf Lleoliaeth 2011.
Argymhelliad 21. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod yr holl wybodaeth
am gyflogau sefydliadau’n cael ei chyhoeddi mewn un lle hawdd cael
ato ar eu gwefan ac yn nodi’r wybodaeth yn glir ac yn dryloyw. I wneud
hyn, argymhellwn fod Llywodraeth Cymru yn llunio canllawiau ar
fformat y datgeliad hwn. Credwn y bydd hyn yn sicrhau’r tryloywder
gorau posibl ac atebolrwydd yn y pen draw.
Argymhelliad 22. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru
yn gwneud y gofynion hyn yn amod ar gyfer unrhyw grantiau neu
gyllid a ddarperir i’r sefydliadau hynny na ellir eu dosbarthu’n llwyr i’r
sector cyhoeddus (e.e. landlordiaid cymdeithasol cofrestredig,
darparwyr addysg bellach ac addysg uwch).
Argymhelliad 23. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru
yn coladu’r wybodaeth am gyflogau uwch reolwyr ledled sector
cyhoeddus Cymru yn unol â’r wybodaeth a gyhoeddir gan Swyddfa
Archwilio Cymru ar gyfer y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i gynnwys y
sectorau hynny sy’n derbyn arian sylweddol gan Lywodraeth Cymru
(e.e. landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, addysg bellach ac addysg
uwch) yn flynyddol a chyhoeddi hyn ar ei gwefan.